Hyfforddiant a Datblygiad Personol
‘Rydym yn cynnig hyfforddiant o’r safon uchaf ym Menter Fachwen.
Mae’r gosodiadau hyfforddiant fel arfer am gyfnod o ddwy i dair blynedd ond gellir ei ymestyn ymhellach.
Cyfleoedd Profiad Gwaith
‘Rydym yn cynnig profiad gwaith yn y meusydd canlynol:-
· Arlwyo
· Gwarchodaeth
· Garddwriaeth
· Ail-gylchu
· Sgiliau Swyddfa
· Gwaith coed
Achrediad
Achredir yr hyfforddiant drwy’r Rhwydwaith Coleg Agored.
Swydd Hyfforddwyr
Cewch gefnogaeth a hyfforddiant penodol i’ch anghenion gan y Swydd Hyfforddwyr a byddwch yn derbyn anogaeth i gyflawni eich potensial yn y gweithle.
Hyrwyddir sgiliau sylfaenol fel Llythrennedd, Rhifedd a Thechnoleg Gwybodaeth mewn safle gwaith naturiol.
Cludiant
Bydd y tîm hyfforddi yn eich cynorthwyo i ddarganfod eich ffordd i’r gwaith yn annibynnol ar gludiant cyhoeddus os yn bosib.
Lleoliad
Cynhelir holl hyfforddiant Menter Fachwen mewn safleoedd gwaith cymunedol.
Asiantaethau Eraill
‘Rydym yn cydweithio gyda asiantarthau eraill yn cynnwys CGGC, Agoriad, Ysgolion, Coleg Menai, cyflogwyr lleol a’r Tîm Anableddau dysgu er mwyn sicrhau fod y cynllun gorau wedi ei ddarparu ar eich cyfer.
Cynllunio Unigol
Trefnir eich cynllun hyfforddiant unigol gan dîm hyfforddiant profiadol sy’n cydweithio mewn partneriaeth gyda asiantaethau eraill.
Arweiniad a Chownsela
Bydd hyn yn cael ei integreiddio i’ch diwrnod gwaith i sicrhau y byddwch yn gallu gwneud y dewisiadau cywir eich hun am eich dyfodol.
Am rangor o fanylion, cysylltwch â:
ktoms@menterfachwen.org.uk
Newyddion