Logo
Gwasanaeth

CADWRIAETH YN NGHWM DERWEN, FACHWEN

Ionawr 2013

Yn dilyn ein gwesteion annisgwyl y gwanwyn diwethaf (gweler isod am ragor o fanylion), rydym wedi bod yn llwyddiannus i gael grant gan Amgylchedd Cymru i brynu tai adar a bwydwyr adar gyda chamerâu integredig, a theledu fel y gallwn weld yr adar, yn eu cynefinoedd naturiol heb aflonyddu arnynt.

Mae'r camerâu
wedi eu cysylltu â'r teledu sydd wedi ei lleoli yn ein caffi, bydd hyn yn caniatáu i ni a'n cwsmeriaid i weld yr adar, eu hwyau a'u cywion.

Yng ngwanwyn 2012 gawsom lojar annisgwyl o Titw Tomos Las a oedd wedi gwneud nyth ar gyfer ei hyn yn un o'n unedau gwaredu.


Rydym i gyd wedi gwirioni gyda'n ffrind ac mam newydd



Uchod, mae llun o’r fam brysur, yn mynychu i'w nythaid o 8 babanod.

Uchod, mae'r babanod llwglyd yn disgwyl am eu mam.


Erbyn diwedd y Gwanwyn gadawodd y fam a’r babanod o’r nyth. Rydym yn gobeithio eu bod wedi dod o hyd i gartref newydd addas yn un o'n blychau adar yn ein coetiroedd yng Nghwm Derwen.

                          ~~~~~~~~~~

***NEWYDD *** Erbyn hyn mae gennym 2 guddfan adar yn ein coetir Cwm Derwen. Y tro nesaf, dewch â'ch binocwlars a mwynhewch gwylio rhai or adar a wiwerod! *****






                            ~~~~~~~~~~

Mae y safle yn eistedd ar tua 3.5Ha (8 acer) o lethrau coediog ar lannau Llyn Padarn sydd ar waelod Dyffryn rhewlifol Pass Llanberis. 

 
Golygfeydd o Lyn Padarn o Bryn Peris, Fachwen

Ir de-ddwyrain mi welwch Yr Wyddfa, sydd yn sefyll yn 1085m -  y mynydd mwyaf yn Nghymru.  Gallwch weld oliau oes yr ia diwethaf yn glir uwch fyny y Dyffryn.


Yr Wyddfa

Coedwig

Yn bennaf derw, bedwen a sycamor.  Hefyd, mae onnen, cerddin, helygen, celyn, ceiriosen yr adar a llwyfen lydanddail yn bresennol.  Mae'r goedwig yn un ifanc,  a mae'r coed ar hyd y ffiniau yn hynnach na'r rhain sydd yn y canol.   Cafodd y tir ei adael yn yr 40au a 50au yn ystod y dirywiad diwydiant y chwareli, a pan adeiladwyd tai cyngor leol newydd.

Coed cyll, draenen wen a draenen ddu sydd yn ffurfio'r haenau prysgoediog.

FFLORA'R LLAWR

Mae amryw o blanhigion yn Nghwm Derwen, a pob un hefo fflora ei hun.

Coedwig Sych


Llwybrau wedi'i chynnal yn y coedwig


Llwybrau wedi'i chynnal mynd lawr trwy'r coedwig sych


Mwsog

Coedwig 'sych' - wedi ei lleioli ar y tir serth, lle mae'r pridd yn denau ac yn draenio.  Mae'r ardal yma gyda carped mwsog trwchus, sydd yn gorchuddio'r llawr, walliau, cerig a boncyffion.  Yn bennaf mae melynwellt y gwanwyn, maeswellt rhedegog, melynllys, clychau gleision, miaren a coeden brith yn y cae and planhigion dringo fel gwyddfid ac eiddew.

Llannerch

Llannerch  - yma mae llawer of rhywogaeth gwellt, miaren, clychau gleision, grug, eithin, llus, rhedyn, melynllys, coeden frith, blodau'r gwynt, helyglys hardd, fioled, coedfrwynen, tresgl a llawer mwy o blanhigion.

Coedwig Gwlyb

Coedwig Gwlyb - lle mae rhan fwaf o gysgod, mae'r fflora yn hirach ac teneuach.  Yma welwch melynwellt y gwanwyn a cawnen benwen fel y prif fathau.   Hefyd welwch clystyrau rhedyn fel marchredynen wryw, marchredynen feyw, a rhedynen fras.  Mae yna lawer o'r miaren on dim llawer o eiddew a gyddfid. 


Rhedyn


Miaren - Mwyar Duon

Grug Coediog


Grug coediog

Grug Coediog - er bod ei brif nodweddion yn debyg i goedwig sych, mae yna lawer o goed llus, eithin a gliniogai'r coed.  Mae llai o'r miaren ond fwy o rhedynen.

Ffawna

Mae'r coedwig  yn gartref i wahannol adar, wiwerod llwyd, llygoden y gwair, llygoden y maes, madfall, neidr ddefaid, llyffantod a broga.   Yn rheolaidd bydd teulu o eifr gwyllt yn ymweld ar safle; hefyd mae llwynogod,  moch daear a mamaliaid eraill yn ymweld ar safle.

Y Pwll

Tua hanner ffordd i fyny'r safle mae'r pwll.  Mae'r pwll yma wedi cael ei sefydlu wrth argau afon bach a gadael i blanhigion ac anifeiliaid sefydlu'n naturiol.   Mae'r pwll yn llawn o fwyd naturiol, gan gynnwys nymffau ac oedolion gwybedyn, pryfaid y cerrig, mursen a chwilog.  Hefyd mae madfall, broga a llyffantod yn presennol.


Y Pwll

Chwarelu

Fel pob man arall oddi amgylch, ni ddaru Cwm Derwen dianc o'r diwydiant llechi.  Chwarel Terfyn yw'r twll chwarel fwyaf ar y safle, ond y gallwch weld llawer o dyllau profi eraill ar y safle.  Mae y safle picnic yng Nghei Llydan wedi eu greu o wastraff y chwareli ac hanner ffordd i fyny'r safle welwch hen gwt hollti llechi.

Mae tren bach Llyn Llanberis sydd yn rhedeg ar waelod y safle, yn rhedeg ar hyd y trac a oedd yn wreiddiol mynd ar llechi i harbwr Felinheli.   Roedd y llechi wedyn yn mynd ar gychod hwylio dros y byd, yn enwedig i UD America.

Caffi Padarn

Cliciwch yma  i fynd i tudalen Caffi Padarn.

Wedi ei lleoli ar ben y safle mae bwthyn Bryn Peris.   Yn wreiddiol cartref chwarelwr.   Hwn oedd yr adeilad cyntaf i cael ei ddatblygu gan Menter Fachwen.   Cafodd y bwthyn ei adnewyddu'n hollol i greu swyddfeydd cyntaf Menter Fachwen, ond mae nawr yn gaffi yn cynnig diodydd, bwyd a cacennau cartrefol yn ystod y gwyliau haf.


Bwthyn Pryn Peris heddiw