CERDDED BRYN PERIS, CWM DERWEN
Mae Bryn Peris, Cwm Derwen yn cael ei redeg fel canolfan i fywyd gwyllt a choetir. May yno gaffi, cynefinoedd bywyd gwyllt, mannau picnic, man chwarae i blan, arddagnosfeydd sy'n dehongli'r dirwedd, canoflan hollti llechia chyfoed o hanes i'w ddarganfod. Me olion dwy chwarel lechi gynnar i'w gweld ar y safle. I'r dwyrain o Fryn Peris mae gweddillion chwarel Shelton a Greaves, a enwyd ar ol dau Sais a ddaeth yma i wneud eu ffortiwn drwy agor chwarel lechi. Ni fu'r chwarel yn un ffyniannus ond aeth John Greaves ymlaen i wneud ei ffortiwn drwy agor chwarel enwog Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Ar waelod y bryn mae gweddillion Chwarel y Ffin a oedd yn cael ei gweithio'n gynnar yn yr 18fed ganrif. Adeiladwyd cei ar gyfer y chwareli hyn ar lan y llyn ond cawsant eu dinistrio pan adeiladwyd y rheilffordd yn yn 1840au, ond mae traciau chwarel Shelton a Greaves i'w gweld o hyd yng nghanol y drysni.
Cliciwch yma am fanylion ein Caffi Padarn sydd ar y safle.
Newyddion