Logo
Hanes Datblygiad

Hanes Datblygu

Criw o ffrindiau’n byw yn Fachwen ar gyrion Eryri gafodd y syniad am Fenter Fachwen. Roedd gan y pedwar; Mary Jones, Karen Wood, Dick Jones a Simon Higgins, i gyd ddiddordeb mewn datblygu menter yn eu hardal leol ac roedden nhw i gyd yn credu y dylai pobl ag anableddau gael cyfle cyfartal i gymryd rhan.

Cyflwynodd Dick a Si y syniad i bobl yr ardal yn 1988 gyda chefnogaeth Hywel Evans, ffigwr allweddol yn natblygiad Antur Waunfawr yn y cwm nesaf. Yn fuan iawn, ymunodd pobl â grŵp llywio ac wrth i’r prosiect gael ei draed dano, daethant yn Gyfarwyddwyr i’r Cwmni.

Prynodd y grŵp Bryn Peris, adfail o fwthyn a 2 erw o dir yn Fachwen ac yn 1989, ar y cyd â Cliff Jones, Phil Jones a Len Jones, dechreuwyd ar y gwaith o’i adfer. I Cliff, Phil a Len, dyma oedd eu cyfle cyntaf i fwrw iddi gyda gwaith go iawn.

Yn 1996, prynodd y Fenter Dŷ Llundain yng nghanol Cwm y Glo. Unwaith eto, roedd yr adeilad hwn mewn cyflwr difrifol a dechreuwyd ar y gwaith o greu canolfan i’r swyddfa, caffi ac yn 2001, uned TG.

Yn 2002, datblygodd y Fenter ei gynllun 'Gwaith Gwyrdd' ar safle'r Hen Orsaf yng Nghwm y Glo a sefydlwyd ei safle gwaith coed a garddwriaeth ar y safle.

Yn 2005, sefydlwyd yr Uned Celfyddydau a Chrefftau Cymunedol yn y Caban ym Mrynrefail.

Yn 2006, cwblhawyd Siop Goffi a phopty E.B. yng nghanol Deiniolen.

Y datblygiad diweddaraf fydd gweithio mewn partneriaeth ag Asha Bhavan yn Kottayam, Kerala, India. I ddechrau, y cynllun fydd cefnogi penodi Swyddog Datblygu (Hydref 2006) ac yna byddwn yn cydweithio er mwyn datblygu mentrau ar y cyd.