Logo
Eich Golygfa

Golygfa

Ein Cenhadaeth: Datblygu potensial pobl a lleoedd Dyffryn Peris.

Nodau:

  • Bod yn fenter gymdeithasol gynaliadwy
  • Darparu cyfleoedd datblygiad personol i bobl
  • Datblygu cyfleoedd busnes sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau i’r gymuned leol
  • Meithrin cysylltiadau sydd o fudd i’r ddwy ochr.

Cyhoeddiadau ac Erthyglau:
'Ring fenced or Fenced In'
Simon Higgins - Llais 2002

Wise-Link:
See the people & the place – detholiad o’r CD-ROM WISE-Link (prosiect cydweithiol gydag Iwerddon)

Cysylltiadau ag India
Mae Dr Bobby Kurian yn gweithio gyda Karen Wood, un o sylfaenwyr Menter Fachwen a thrwy gyfrwng y cysylltiad personol hwn mae Menter wedi meithrin cysylltiadau gydag Asha Bhavan yn Kottayam, Kerala.

Mae Asha Bhavan wedi’i ysbrydoli gan ymrwymiad personol Bobby i ddatblygu i bobl ag anableddau dysgu yn ei dalaith frodorol yn Kerala. Mae Anna Ninan, gwraig Bobby’n gweithio yno o ddydd i ddydd i gynorthwyo merched gydag anableddau dysgu i ddysgu sgiliau newydd.

Trwy ddod at ei gilydd, bydd Menter yn cynorthwyo Asha Bhavan i ddatblygu ei syniadau ar gyfer prosiectau a dod o hyd i arian i adeiladu canolfan ragoriaeth newydd i gefnogi pobl ag anableddau a’u teuluoedd. Ein gobaith yw y bydd hwn yn fodel ar gyfer datblygu pellach ledled India.

Bydd Menter Fachwen a’i gweithlu a’r cymunedau lleol hefyd yn elwa ar y profiad o gynorthwyo i sefydlu grŵp arall. Mewn ychydig flynyddoedd yr ydym yn gobeithio trefnu ymweliadau cyfnewid. Byddwn yn rhannu cwricwla, syniadau a gwahanol ddiwylliannau.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Eich Sylwadau

Mae croeso i chi drafod agweddau o waith Menter Fachwen ar y safle hwn. Yr ydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau cyfrifol, ond cofiwch barchu cyfrinachedd pobl eraill.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -